KönigsbergBb ett P j 8 SsFf _ero P Hl Dl067k Lsyn XeuGg
|
| |
|
| |
| Math |
safle archaeologeol, former populated place |
|---|---|
|
| |
| Sefydlwyd |
|
| Daearyddiaeth | |
| Sir |
Rhanbarth Dwyrain Prwsia, Duchy of Prussia, Brandenburg-Prussia, Rhanbarth Dwyrain Prwsia, Prussia Province |
| Gwlad |
Prwsia, Ymerodraeth yr Almaen, Yr Almaen Natsïaidd, Yr Undeb Sofietaidd, Ymerodraeth Rwsia |
| Uwch y môr |
48 metr |
| Cyfesurynnau |
54.7167°N 20.5167°E |
|
| |
|
[golygwch ar Wicidata] | |
Dinas Almaenig oedd Königsberg a saif ar leoliad y ddinas bresennol Kaliningrad, sydd yn brifddinas Oblast Kaliningrad, allglofan i Ffederasiwn Rwsia.
Sefydlwyd Königsberg gan y Marchogion Tiwtonaidd ym 1255, yn ystod Croesgadau'r Gogledd, ar safle Twangste, un o drefi hanesyddol yr Hen Brwsiaid. Ystyr Königsberg yw "Mynydd y Brenin", a chafodd ei henwi ar ôl Ottokar II, brenin Bohemia. Tyfodd yn borthladd pwysig yn y Môr Baltig ac ymunodd â'r Gynghrair Hanseatig ym 1340. Daeth yn brifddinas i Ddugiaeth Prwsia (1525-1701) a Dwyrain Prwsia (1772–1829, 1878–1945).
Datblygodd Königsberg yn ganolfan i ddeallusion, llenorion, ac arlunwyr Almaenig ac yn gartref i Brifysgol Albertina. Ymhlith yr enwogion a drigasant yno bu Simon Dach, Immanuel Kant, Käthe Kollwitz, E. T. A. Hoffmann, David Hilbert, Agnes Miegel, Hannah Arendt, a Michael Wieck. Siaradai'r boblogaeth Almaeneg yn bennaf o'r 13g hyd yr 20g, ac roedd hefyd yn ddinas bwysig i genhedloedd y Pwyliaid a'r Lithwaniaid.
Cafodd y ddinas ei ddirywio gan ymgyrch fomio'r Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn ystod Brwydr Königsberg (1945). Cipiwyd y ddinas gan yr Undeb Sofietaidd a chafodd y boblogaeth Almaenig ei gyrru allan. Cafodd yr ardal ei hail-boblogi gan ddinasyddion Sofietaidd, a'i hail-enwi'n Kaliningrad ym 1946 er cof am Mikhail Kalinin.
ләд co []mplor t_mBb pg4ansode071 1 PP dintri